Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2026

Amser y cyfarfod: 13.30
 


332 (v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynllun Buddsoddi Cronfa Twf Lleol Cymru

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Cefnogi’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol

(30 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cymunedau Cymraeg

(30 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gefnogol a Chynhwysol ar gyfer Dyfodol Mwy Disglair

(30 munud)

</AI7>

<AI8>

7       Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026

(15 munud)

NDM9161 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI8>

<AI9>

8       Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

(10 munud)

NDM9160 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026  yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI9>

<AI10>

9       Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026

(15 munud)

NDM9162 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI10>

<AI11>

10    Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026

(10 munud)

NDM9159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

</AI11>

<AI12>

11    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu a Phlismona - gohiriwyd tan 10 Mawrth

(0 munud)

</AI12>

<AI13>

12    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd

(15 munud)

NDM9156 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod ar 20 Mai 2025, a chafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ei osod ar 5 Tachwedd 2025, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd  - Parliamentary Bills - UK Parliament

 

Dogfennau ategol:

Adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar femoranda rhif 1 a rhif 2.

Ymateb y Llywodraeth i adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a‘r Cyfansoddiad ar femoranda rhif 1 a rhif 2.

</AI13>

<AI14>

13    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynlluniau Pensiwn

(15 munud)

NDM9158 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Cynlluniau Pensiwn i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2025, a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2026 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Pension Schemes Bill - Parliamentary Bills - UK Parliament

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

</AI14>

<AI15>

14    Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

(60 munud)

NDM9157 Jeremy Miles (Castell-nedd)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau canlynol yn y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig:

a) Cymal 4(3A) (Voluntary Assisted Dying Commissioner) (i’w fewnosod gan welliant ar ddiwedd Cymal 4, tudalen 2, llinell 29 ac wedi’i restru ym mhapur HL Bill 112-IX(b))

b) Cymal 40 (Guidance about operation of Act)

c) Cymal 42(1), (2), (5) a (6) (Voluntary assisted dying services: Wales)

d) Cymal 47(3A) (Reporting on implementation of Act) (i’w fewnosod gan Welliant 784)

e) Cymal 49 (Monitoring by Commissioner) (i’w ddiwygio gan Welliannau 804 ac 809)

f) Cymal 50(4) (Review of this Act) (i’w fewnosod gan Welliant 824)

g) Cymal 51(1), (2), (3), (5), (6) a (7) (Provision about the Welsh language)

h) Cymal 54(1), (2), (5), (6) (Regulations) (i’w ddiwygio gan Welliannau 857CA ac 872A)

i) Cymal 55(3) (Duty to consult before making regulations) (i’w fewnosod gan Welliant 877A)

j) Cymal 58(5), (7), (8) (Commencement) (i’w ddiwygio gan Welliant 905A)

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 9 Ebrill 2025, a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 4 Gorffennaf 202523 Rhagfyr 2025 a 16 Chwefror 2026, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae’r rhifau Cymalau a restrir yn y cynnig hwn yn unol â’r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd o’r Bil fel y’i dygwyd o Dŷ’r Cyffredin ar 23 Mehefin 2025, a gellir dod o hyd i’r gwelliannau yn y Rhestr Gyntaf hyd at y Nawfed o Welliannau wedi’u Didoli ac ym Mhapur HL Bill 112-IX(b) (sy’n atodol i’r Nawfed Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli).

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Memorandwm Atodol (Rhif 3) ac Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw.

Gellir cael copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) - Biliau Seneddol - Senedd y DU

 

Dogfennau ategol:

Adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif 3.

Ymateb y Llywodraeth i adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a‘r Cyfansoddiad ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif 3.

Adroddiadau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif 3.

Ymateb y Llywodraeth i adroddiadau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar femoranda rhifau 1 a 2.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol.

 

Gwelliant 2Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Cymru gael pwerau llawn i ddewis deddfu neu beidio ynghylch cyfreithlondeb a gweithredu gwasanaethau marw â chymorth, fel sy'n digwydd yn yr Alban.

 

Gwelliant 3Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, Senedd y DU a hyrwyddwyr y Bil i gynnwys darpariaeth yn y Bil i ddileu'r mater a gedwir yn ôl ynghylch y gyfraith droseddol ar hunanladdiad ym mharagraff 199 yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

</AI15>

<AI16>

15    Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

(5 munud)

NDM9163 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adran 2;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 3 i 75;

d) Adran 1;

e) Adrannau 76 i 107;

f) Atodlen 2;

g) Adrannau 108 i 128;

h) Atodlen 3;

i) Atodlen 4;

j) Adrannau 129 i 130;

k) Teitl hir.

</AI16>

<AI17>

16    Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)

(15 munud)

NDM9172 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru).

Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

</AI17>

<AI18>

17    Cyfnod pleidleisio

 

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 25 Chwefror 2026

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>